MEMORANDWM ESBONIADOL I
Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016
Mae’r Memorandwm Esboniadol hwn wedi’i baratoi gan y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ac fe’i cyflwynir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.
Datganiad y Gweinidog
Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o’r effaith y disgwylir i Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 ei chael.
Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC
Prif Weinidog Cymru
15 Ionawr 2016
Mae’n disodli’r fersiwn a osodwyd ar 18 Rhagfyr 2015.
1.1 Mae Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 (‘y Gorchymyn’) yn diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) sy’n nodi (i) y sefydliadau (cyfeiri’r atynt fel personau yn y Mesur) sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a (ii) pa gategorïau o safonau sy’n gymwysadwy i bob sefydliad.
1.2 Mae’r Gorchymyn yn delio â newidiadau megis hepgor enwau sefydliadau nad ydynt bellach yn bodoli, cynnwys sefydliadau newydd, a diwygio enwau sefydliadau eraill i adlewyrchu newidiadau sydd wedi digwydd ers i’r Mesur gael ei wneud.
2.1 Caiff Gorchmynion i ddiwygio Atodlen 6 i’r Mesur (“Atodlen 6”) eu gwneud o bryd i’w gilydd. Byddant yn cynnwys newidiadau i enw neu statws sefydliadau, yn dileu sefydliadau nad ydynt bellach yn bodoli ac yn mewnosod sefydliadau newydd, i sicrhau y gall Gweinidogion Cymru wneud safonau sy’n benodol gymwys iddynt.
2.2 Fel nodir ym mharagraff 3.1 isod, gall Gweinidogion Cymru ond diwygio Atodlen 6 i gynnwys sefydliad (neu gategori o sefydliadau) os yw’r sefydliad (neu gategori o sefydliadau) yn cwympo i un neu fwy o’r categorïau yn Atodlen 5 i’r Mesur. Er tryloywder, ar gyfer y sefydliadau ym mharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Gorchymyn, mae’r tabl yn nodi pa gategori yn Atodlen 5 y maent yn cwympo iddo ym marn Gweinidogion Cymru. Os yw’n bosibl bod y sefydliad yn cwympo o fewn mwy nag un categori, un categori yn unig sydd wedi ei nodi.
Sefydliad |
Categori yn Atodlen 5.
|
Yr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol
|
Categori (6): Personau sy'n goruchwylio rheoleiddiad proffesiwn, diwydiant neu gylch cyffelyb arall o weithgaredd.
|
Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil
|
Categori (1): Awdurdodau cyhoeddus. |
Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain
|
Categori (1): Awdurdodau cyhoeddus. |
Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol
|
Categori (6): Personau sy'n goruchwylio rheoleiddiad proffesiwn, diwydiant neu gylch cyffelyb arall o weithgaredd.
|
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru
|
Categori (2): Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac a gafodd eu sefydlu drwy ddeddfiad.
|
Y Bwrdd Ystadegau
|
Categori (2): Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac a gafodd eu sefydlu drwy ddeddfiad.
|
Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig
|
Categori (5): Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol— (a) pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu (b) pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.
|
Coleg Ceredigion

Coleg Sir Gâr

Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
|
Categori (1): Awdurdodau cyhoeddus.
|
Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
|
Categori (6): Personau sy'n goruchwylio rheoleiddiad proffesiwn, diwydiant neu gylch cyffelyb arall o weithgaredd.
|
Cymdeithas Genedlaethol Cyngor ar Bopeth
|
Categori (5): Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol— (a) pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu (b) pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.
|
Cymwysterau Cymru
|
Categori (6): Personau sy'n goruchwylio rheoleiddiad proffesiwn, diwydiant neu gylch cyffelyb arall o weithgaredd.
|
Glandŵr Cymru
|
Categori (4): Personau y mae swyddogaethau darparu gwasanaethau i'r cyhoedd wedi eu rhoi iddynt neu wedi eu gosod arnynt drwy ddeddfiad.
|
Gofal Cymru
|
Categori (5): Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol— (a) pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu (b) pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.
|
Hafal

Leonard Cheshire Disability

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
|
Categori (1): Awdurdodau cyhoeddus. |
Royal Voluntary Service
|
Categori (5): Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol— (a) pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu (b) pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.
|
Y Sefydliad Ffilm Prydeinig
|
Categori (3): Personau wedi eu sefydlu drwy offeryn uchelfreiniol— …….. (b) i gasglu neu ddiogelu gwybodaeth gofnodedig, neu wrthrychau a phethau sy'n hybu dealltwriaeth, neu ddarparu mynediad at yr wybodaeth honno neu at y gwrthrychau a'r pethau hynny, (c) i gefnogi, gwella, neu hybu treftadaeth, diwylliant, chwaraeon neu weithgareddau hamdden, neu ddarparu mynediad atynt,
|
Swyddfa Archwilio Cymru
|
Categori (1): Awdurdodau cyhoeddus. |
Wallich – Clifford Community
|
Categori (5): Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol— (a) pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu (b) pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.
|
WEA YMCA CC Cymru

3.1 Mae Adran 35 o’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn 1 y tabl yn cynnwys (i) sefydliad sy’n dod o fewn un neu ragor o gategorïau Atodlen 5 neu (ii) categori o sefydliadau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o gategorïau Atodlen 5.
3.2 Mae Adran 38 o’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio tabl Atodlen 6 fel bod colofn 2 o gofnod sefydliad (neu o gofnod ‘categori o sefydliadau’) yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o’r canlynol (i) safonau cyflenwi gwasanaethau, (ii) safonau llunio polisi, (iii) safonau gweithredu a (iv) safonau cadw cofnodion.
3.3 Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 6 i’r Mesur drwy;
(a) mewnosod sefydliadau newydd a phennu dosbarthiadau o safonau yng ngholofn 2 o gofnod pob sefydliad;
(b) tynnu sefydliadau oddi yno lle bo hynny’n briodol, er enghraifft os yw sefydliad wedi ei ddiddymu;
(c) diwygio enwau sefydliadau sydd wedi newid ers i’r Mesur gael ei wneud.
3.4 Mae’r Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y weithdrefn gadarnhaol).
Cefndir
4.1 Cadarnhaodd y Mesur statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru a chreodd fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr iaith. Mae pennu safonau ac awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i’w gwneud yn ofynnol i bobl gydymffurfio â’r safonau hynny yn gam allweddol yn y gwaith o roi effaith i’r Mesur.
Y mater
4.2 Mae Atodlen 6 i’r Mesur yn nodi’r categorïau o sefydliadau a’r sefydliadau unigol sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau. Mae angen diweddaru’r Atodlen bellach; nid yw rhai o’r sefydliadau a enwir yn yr Atodlen yn bodoli bellach, mae rhai wedi newid eu henw ac mae eraill wedi uno i greu sefydliadau newydd. Yn ogystal, mae’r Comisiynydd wedi dod i’r casgliad, yn dilyn ymchwiliad safonau, y dylai rhai sefydliadau nad oeddent yn flaenorol wedi’u cynnwys yn Atodlen 6 i’r Mesur fod yn agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg.
4.3 Fel rhan o’r broses o baratoi’r Gorchymyn hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried casgliadau’r Comisiynydd, ynghyd ag ystyried a yw’r sefydliadau hyn yn dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5 a phriodoldeb cynnwys y sefydliadau yn Atodlen 6. Mae’r Gorchymyn yn adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Pwrpas
4.4 Bydd y Gorchymyn hwn yn diweddaru’r rhestr o sefydliadau yn Atodlen 6 i adlewyrchu’r newidiadau.
- Mae paragraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Gorchymyn yn mewnosod enwau sefydliadau i Atodlen 6 i’r Mesur.
Mae’r Gweinidogion wedi ystyried pob sefydliad a gynhwysir yn
y Gorchymyn i sicrhau eu bod yn dod o fewn un neu ragor o’r
categorïau yn Atodlen 5, ac maent yn fodlon eu bod .
-
Mae paragraffau 3 a 4 o’r Atodlen i’r Gorchymyn yn
hepgor cofnodion pan nad yw’r sefydliadau hynny bellach yn
bodoli, pan fyddant yn cwympo i un o gategorïau Atodlen 6 yn
barod, neu pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod sefydliad
yn dod o fewn Atodlen 7 a 8 i’r Mesur.
- Mae paragraffau 5 a 6 o’r Atodlen i’r Gorchymyn yn newid y cofnodion lle bo’r sefydliadau y sonnir amdanynt wedi newid eu henw.
Effaith
4.5 Bydd y Gorchymyn hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru (drwy Reoliadau ar wahân) i wneud safonau yn benodol gymwys i’r sefydliadau neu’r categorïau o sefydliadau a gynhwysir ym mharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Gorchymyn ac i’r sefydliadau y mae eu henwau wedi newid (gweler paragraffau 5 a 6 o’r Gorchymyn). Bydd hynny’n golygu y bydd y Comisiynydd wedi’i awdurdodi i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliadau hynny gydymffurfio â safonau.
Y risg os na chaiff y newidiadau eu gwneud i’r ddeddfwriaeth
4.6 Oni bai bod sefydliad sy’n dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5 i’r Mesur hefyd wedi ei gynnwys yn Atodlen 6, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud safonau’n benodol gymwys iddynt. Bydd hyn yn golygu na fydd y Comisiynydd yn gallu ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliad gydymffurfio â safonau.
4.7 Gallai hyn arwain at wireddu’r risgiau a ganlyn;
· Methu â rhoi elfen allweddol o’r Mesur ar waith. Hynny yw, cyflwyno’r drefn safonau ac awdurdodi’r Comisiynydd i’w gwneud yn ofynnol i sefydliad gydymffurfio â safonau.
· Efallai na chaiff sefydliad sy’n ymwneud â’r cyhoedd ei gynnwys yn y drefn safonau newydd.
· Bydd anghysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar sefydliadau yn yr un sectorau.
· Bydd y cyhoedd yn ansicr ynghylch pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg. Bydd yr ansicrwydd yn parhau os na chaiff y Gorchymyn hwn ei wneud i ganiatáu i safonau gael eu gwneud yn benodol gymwys i sefydliadau sy’n dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5 i’r Mesur.
· Ni fydd sefydliadau sydd â Chynllun Iaith Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn trosglwyddo i’r drefn safonau.
5.1 Nid yw Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ar y Gorchymyn hwn gan nad yw’r Gorchymyn yn rhoi unrhyw ddyletswyddau’n uniongyrchol ar y sefydliad. Mae Atodlen 6 i’r Mesur yn nodi’r sefydliadau a’r categorïau o sefydliadau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau. Mae’r broses o wneud safonau yn cynnig amryw o gyfleoedd i sefydliad gymryd rhan yn y broses ac i godi unrhyw bryderon sydd ganddo.
5.2 Cyn i sefydliad orfod cydymffurfio â safonau, rhaid
bodloni nifer o amodau. Nodir y rhain yn adran 25 o’r Mesur.
Un amod yw bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud safonau’n
benodol gymwys i’r sefydliad drwy Reoliadau. At hynny, rhaid
i’r Comisiynydd gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i’r
sefydliad yn nodi pa safonau y mae’n rhaid i’r
sefydliad gydymffurfio â nhw (ym mha amgylchiadau ac
ardaloedd). Bydd yr hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi’r
dyddiad y mae’n rhaid i’r sefydliad ddechrau
cydymffurfio.
5.3 Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i’r sefydliad, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori ag ef yn unol ag adran 47 o’r Mesur (oni bai bod y Comisiynydd yn fodlon ei fod eisoes wedi ymgynghori â’r sefydliad neu fod y sefydliad wedi cael y cyfle i gyfrannu at ymgynghoriad ar y mater fel rhan o ymchwiliad safonau).
5.4 Mae yna hefyd weithdrefn glir i unrhyw sefydliad allu herio’r gofyniadau i gydymffurfio â safon benodol ar y sail nad yw’n rhesymol ac yn gymesur gofyn iddo wneud hynny. Yn y lle cyntaf, bydd sefydliad yn gallu cyflwyno her i’r Comisiynydd. Os yw’r sefydliad am apelio yn erbyn penderfyniad y Comisiynydd, gellid apelio i Dribiwnlys y Gymraeg, ac yna i’r Uchel Lys.
5.5 Mae’r sefydliadau ym mharagraffau 1 a 2 o’r Gorchymyn sydd wedi cymryd rhan yn Ymchwiliad Safonau’r Comisiynydd; yn ymwybodol o, ac yn rhan o’r broses o wneud safonau. Mae’r Comisiynydd wedi cyflwyno dadansoddiad o ymatebion pob un o’r sefydliadau yma ynghyd â’i chasgliadau mewn cyfres o adroddiadau i Weinidogion Cymru.
5.6 Mae Adran 66(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i adroddiadau'r ymchwiliad safonau a baratowyd gan y Comisiynydd wrth benderfynu a ddylent arfer y pwerau i bennu safonau a'u gwneud yn benodol gymwys a sut y dylent arfer y pwerau hynny. Bydd unrhyw bryderon mae sefydliad wedi eu codi yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru yn ystod y broses hon.
5.7 Y cyrff na chawsant eu cynnwys yn ail neu drydydd Ymchwiliad Safonau'r Comisiynydd yw’r Sefydliad Ffilm Prydeinig, sydd wedi cymryd arnynt swyddogaethau Cyngor Ffilm y DU, a Glandŵr Cymru sy’n sefydliad olynol i Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain. Enwir y ddau sefydliad yn Atodlen 6 i’r Mesur ac mae cynnwys y Sefydliad Ffilm Prydeinig a Glandŵr Cymru yn y Gorchymyn yn diweddaru Atodlen 6.
5.8 Nid oedd Cymwysterau Cymru wedi ei sefydlu hyd nes i ddau Ymgynghoriad y Comisiynydd ddod i ben. Mae ymrwymiad yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol oedd yn gysylltiedig â Bil Cymwysterau Cymru (sy nawr yn Ddeddf) i'r corff gael ei gynnwys o fewn y grŵp o gyrff a enwir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel rhai sy’n gorfod cydymffurfio a safonau'r Gymraeg.
5.9 Ni ellir gorfodi’r sefydliadau hyn i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg nes bod yr amodau a nodir yn adran 25 o’r Mesur wedi’u diwallu a bod ymgynghoriad ar yr hysbysiad cydymffurfio (yn unol ag adran 47) wedi ei gyflawni.
6. Asesiad Effaith Rheoleiddiol
6.1 Ystyrir nad oes angen Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn cysylltiad â Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 gan nad yw’n gosod costau uniongyrchol ac mai rhan o ddiweddaru Mesur 2011 ydyw.